Neidio i'r prif gynnwys

Rhoi Mynediad a Thrafnidiaeth Fel Blaenoriaeth

Rhagfyr 2020


Bydd p’un a ydych yn cynllunio digwyddiad tymor byr o gwmpas o reoliadau diweddaraf sy’n diogelu rhag COVID neu’n edrych at y dyfodol ac yn meddwl am gynadleddau mawr yn y blynyddoedd i ddod, bydd mynediad ym mlaen y meddwl.

Ers blynyddoedd, bu’r gallu i gyrraedd cyrchfan yn un o’r tri phrif reswm dros ddewis lleoliad a chyrchfan ymhlith trefnwyr.  Nid yw hyn yn rhywbeth a fydd yn newid yn y dyfodol, er gwaethaf y cynnydd mewn cyfarfodydd digidol a hybrid.  Yn y pen draw – os ydych yn bwriadu bod yn bresennol yn bersonol, rydych lawer mwy tebygol o fynd i rywle sy’n cydbwyso’r cyfleusterau, pris, dymunoldeb cywir a mynediad gwych at drafnidiaeth yn berffaith.

Fodd bynnag, nid dim ond y cysylltiadau trafnidiaeth i’r gyrchfan sy’n bwysig ond hefyd pa mor hwylus yw’r drafnidiaeth pan fydd cynrychiolwyr yn cyrraedd.  Yma yng Nghaerdydd rydym yn ymfalchïo mewn bod yn ddinas gerdded – nid yw unrhyw westy neu leoliad yn fwy na thaith gerdded o 20 munud i ffwrdd o’i gilydd.  Wedi cyrraedd, gall cynrychiolwyr Caerdydd grwydro ar hyd strydoedd gyda choed ar bob ochr neu drwy eich parciau Baner Werdd i gyrraedd eu digwyddiadau, gan anadlu awyr iach ar hyd y ffordd, wrth amsugno treftadaeth gyfoethog a golygfeydd y ddinas. Hefyd gall cynrychiolwyr symud o ganol y ddinas i’r Bae yn rhwydd ar gwch neu ar dacsi dŵr.

Yn bwysig mae gan Gaerdydd hefyd gysylltiadau a hybiau trafnidiaeth gwych ar gyfer pobol sy’n cyrraedd y ddinas.  Er ein bod yn cydnabod nad y ffordd fwyaf cynaliadwy o deithio yw, mae ein rhwydwaith ffyrdd yn mynd â chynrychiolwyr i ganol y ddinas yn gyflym ac yn rhwydd o’r prif ffyrdd a’r traffyrdd – mae gennym ychydig iawn yn unig o dagfeydd ac mae llu o opsiynau parcio ledled y ddinas, mewn lleoliadau ac wedi’u cysylltu â gwestai allweddol.

Mae trenau’n cyrraedd yn rheolaidd yng nghanol y ddinas o gyrchfannau pwysig y DU, gan fynd a chynrychiolwyr nid yn unig i ganol Caerdydd a’n cynnig cynadleddau anhygoel yng nghanol y ddinas, ond hefyd ymlaen at orsafoedd eraill fel ardal Bae Caerdydd sy’n gartref i rai o’n prif leoliadau a gwestai.

Ac wrth gwrs, gallwn wasanaethu ein hymwelwyr rhyngwladol gyda mynediad cyflym a rheolaidd i’n maes awyr ein hunain yn ogystal â phrif feysydd awyr eraill y DU, sydd llai nag awr i ffwrdd.  Dim ond 25 munud o daith i ffwrdd ar wasanaeth bysus wedi’i amserlennu neu dacsi mae Maes Awyr Caerdydd yn hygyrch iawn yn ogystal â blaengar yn nhermau cynaliadwyedd.

Mae trafnidiaeth a mynediad yn bwysig – sicrhewch eu bod ar flaen eich meddwl wrth ddewis cyrchfan.

 


 

Mae pob lleoliad yng Nghaerdydd sy’n cynnal digwyddiadau busnes yn paratoi at ailagor ac yn aros i dderbyn y map ffyrdd i agor gan Lywodraeth Cymru. Yn y cyfamser mae gwestai a lleoliadau lletygarwch yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Good to Go’ ac maent wedi bod yn gweithio fel partneriaeth er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn ddiogel rhag Covid i bob ymwelydd â’r ddinas.

Rhagor o wybodaeth ar gael yma.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y diwydiant gan dîm Cwrdd yng Nghaerdydd…